Coleg Meirion-Dwyfor

Coleg Meirion-Dwyfor Dechreua Dy Stori | Start Your Story [email protected]
[email protected]
[email protected]

Byddwn yn cynnal ein diwrnodau blasu Croeso i'r Coleg yr wythnos nesaf! Bwriad y diwrnod yw rhoi rhagflas i ti o'r coleg...
17/06/2026

Byddwn yn cynnal ein diwrnodau blasu Croeso i'r Coleg yr wythnos nesaf!

Bwriad y diwrnod yw rhoi rhagflas i ti o'r coleg yn ogystal â chwrdd â'r tiwtoriaid, gweld y campws a'r cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy'n gysylltiedig â dy faes pwnc.

Heb archebu dy le eto? https://www.gllm.ac.uk/cy/welcome-to-college-days-for-new-applicants

We’re hosting our Welcome to College taster days next week!

During the taster day, you will be able to meet your tutors, explore the campus & facilities and participate in a range of activities related to your subject area.

Not yet booked your place? https://www.gllm.ac.uk/welcome-to-college-days-for-new-applicants

15/06/2026

Yr wythnos hon, rydym yn falch o ddathlu Wythnos Anabledd Dysgu 2026 a chyflawniadau anhygoel ein myfyrwyr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor 💙

Bob dydd, mae ein dysgwyr yn dangos penderfyniad, gwytnwch, talent ac uchelgais, gan brofi bod pawb yn gallu cyflawni eu nodau a chyrraedd eu llawn botensial gyda'r gefnogaeth a'r cyfleoedd cywir.

O ddatblygu sgiliau newydd a sicrhau cymwysterau i feithrin hyder, annibyniaeth a chyfeillgarwch parhaol, mae ein myfyrwyr yn parhau i'n hysbrydoli gyda phopeth y maent yn ei gyflawni.

Rydym yn hynod falch o bob un ohonynt, ac yn ddiolchgar i'n staff ymroddedig, eu teuluoedd a'n partneriaid sy'n eu cefnogi ar eu taith.

This week, we proudly celebrate Learning Disability Week 2026 and the incredible achievements of our students at Coleg Meirion-Dwyfor 💙

Every day, our learners demonstrate determination, resilience, talent and ambition, proving that with the right support and opportunities, everyone can achieve their goals and fulfil their potential.

From developing new skills and gaining qualifications to building confidence, independence and lasting friendships, our students continue to inspire us with everything they accomplish.

We're incredibly proud of each and every one of them and grateful to our dedicated staff, families and partners who support their journeys.

Chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa?Mae gennym gyfleoedd cyffrous ar draws ein hadrannau!Edrychwch ar y swyddi gwag syd...
08/06/2026

Chwilio am y cam nesaf yn eich gyrfa?

Mae gennym gyfleoedd cyffrous ar draws ein hadrannau!

Edrychwch ar y swyddi gwag sydd ar gael a gwnewch gais heddiw

➡️ https://www.gllm.ac.uk/swyddi

Looking for your next career move?

We have exciting opportunities across our departments!

Explore current vacancies and apply today ➡️ https://www.gllm.ac.uk/jobs

🎨✨ Llongyfarchiadau mawr i'n myfyrwyr Celf a Dylunio blwyddyn olaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, a agorodd eu h...
05/06/2026

🎨✨ Llongyfarchiadau mawr i'n myfyrwyr Celf a Dylunio blwyddyn olaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, a agorodd eu harddangosfa ddiwedd blwyddyn yr wythnos hon!

Mae'r arddangosfa yn arddangos amrywiaeth eithriadol o waith creadigol sy'n adlewyrchu ymroddiad, sgil a gweledigaeth artistig ein myfyrwyr. Mae safon y gwaith sydd i'w weld yn arbennig o uchel, ac rydym yn hynod falch bod nifer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio mewn rhai o'r prifysgolion Celf a Dylunio gorau yn y wlad.

Mae'r arddangosfa bellach ar agor i'r cyhoedd rhwng 5 a 12 Mehefin, o 9.30yb tan 4.00yp, ac mae croeso cynnes i bawb ddod draw i weld y dalent anhygoel sydd ar gael.

🌟 Diolch arbennig i'n siaradwr gwadd, G*i Toms, cyn-fyfyriwr o'r coleg sydd wedi mynd ymlaen i fod yn un o gantorion-gyfansoddwyr mwyaf amlwg Cymru. Roedd yn fraint ei gael gyda ni i ysbrydoli'r myfyrwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer cam nesaf eu teithiau creadigol.

Hoffem hefyd ddiolch i Michelle a'i thim am ddarparu bwyd gwych ar gyfer y noson ac am helpu i wneud yr agoriad yn achlysur mor gofiadwy 👏

🎨✨ Congratulations to our talented final-year Art and Design students at Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau, who officially opened their end-of-year exhibition this week!

The exhibition showcases an outstanding range of creative work, reflecting the dedication, skill and artistic vision of our students. The standard of work on display is exceptionally high, and we are incredibly proud to see many of our learners progressing to some of the country's leading Art and Design universities.

The exhibition is now open to the public from 5–12 June, between 9.30am and 4.00pm, and everyone is welcome to come along and experience the fantastic talent on display.

🌟 A special thank you to our guest speaker, G*i Toms, a former student of the college who has gone on to become one of Wales’ most acclaimed singer-songwriters. It was a privilege to have him join us and inspire our students as they prepare for the next stage of their creative journeys.

We would also like to thank our Michelle and her team for providing the fantastic food on the evening and helping to make the opening such a memorable occasion 👏

🎭🎶 Diwrnod gwych o hwyl, cyfeillgarwch a dathlu yn Eisteddfod flynyddol Grŵp Llandrillo Menai yn Galeri, Caernarfon!Daet...
03/06/2026

🎭🎶 Diwrnod gwych o hwyl, cyfeillgarwch a dathlu yn Eisteddfod flynyddol Grŵp Llandrillo Menai yn Galeri, Caernarfon!

Daeth myfyrwyr o raglenni Sgiliau ar gyfer Gwaith a Bywyd Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai, Coleg Llandrillo a Glynllifon ynghyd i fwynhau diwrnod llawn canu, chwerthin a pherfformiadau cofiadwy 🌟

Roedd hefyd yn braf iawn croesawu disgyblion o Ysgol Hafod Lon ac Ysgol y Bont i gymryd rhan yn y cystadlaethau a helpu i wneud y digwyddiad yn un arbennig iawn.

Da iawn i bawb a gymerodd ran ac a gyfrannodd at greu dathliad mor gadarnhaol a chynhwysol o dalent, hyder a chymuned! 👏💙

🎭🎶 A fantastic day of fun, friendship and celebration at Grŵp Llandrillo-Menai’s annual Eisteddfod at Galeri, Caernarfon!

Students from the Skills for Work and Life programmes at Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Menai, Coleg Llandrillo and Glynllifon came together to enjoy a day packed with singing, laughter and memorable performances 🌟

It was also wonderful to welcome students from Ysgol Hafod Lon and Ysgol y Bont, who joined in the competitions and helped make the event such a special occasion.

Da iawn to everyone who took part and helped create such a positive and inclusive celebration of talent, confidence and community! 👏💙

29/05/2026
Llongyfarchiadau mawr i fyfyriwr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, Hari Davies, ar ennill yr ail safle yn y gystadleuaeth fa...
27/05/2026

Llongyfarchiadau mawr i fyfyriwr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, Hari Davies, ar ennill yr ail safle yn y gystadleuaeth farddoniaeth! 🏆📖✨

Camp anhygoel ac yn adlewyrchiad gwych o greadigrwydd, dawn a brwdfrydedd Hari tuag at lenyddiaeth. Rydym yn hynod falch o weld ein myfyrwyr yn llwyddo ac yn arddangos eu talentau ar lwyfan cenedlaethol.

Da iawn Hari — rwyt ti wedi gwneud y coleg yn falch iawn! 👏💚

Huge congratulations to Coleg Meirion-Dwyfor A Level student Hari Davies on achieving second place in the poetry competition! 🏆📖✨

An incredible achievement and a wonderful reflection of Hari’s creativity, talent, and passion for literature. We are extremely proud to see our students succeeding and showcasing their talents on a national stage.

Well done Hari — you have made the college very proud! 👏💚

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwyr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, Neli, Erin, Beca ac Elliw, ar ennill y trydydd safle yn y...
26/05/2026

Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwyr Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, Neli, Erin, Beca ac Elliw, ar ennill y trydydd safle yn y gystadleuaeth siarad cyhoeddus! 🏆🎤✨

Mae hon yn gamp arbennig ac yn dyst i’w hyder, eu gwaith tîm a’u sgiliau cyfathrebu rhagorol. Rydym yn hynod falch o weld ein myfyrwyr yn cynrychioli’r coleg mor wych ac yn llwyddo ar lwyfan cenedlaethol.

Da iawn i chi gyd — rydych wedi gwneud y coleg yn falch iawn! 👏💚

Huge congratulations to Coleg Meirion-Dwyfor A Level students Neli, Erin, Beca and Elliw on achieving third place in the public speaking competition! 🏆🎤✨

This is a fantastic achievement and a true reflection of their confidence, teamwork, and excellent communication skills. We are incredibly proud to see our students representing the college so brilliantly and succeeding on a national stage.

Well done to you all — you have made the college very proud! 👏💚

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwraig Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, Lea Roberts, ar ei llwyddiant arbennig yn Eisteddfod Ge...
26/05/2026

Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwraig Lefel A Coleg Meirion-Dwyfor, Lea Roberts, ar ei llwyddiant arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Ynys Môn! 🏆📚✨

Mae Lea wedi ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth lenyddiaeth am ysgrifennu stori fer — camp anhygoel sy’n adlewyrchu ei chreadigrwydd, ei dawn a’i hymroddiad.

Rydym yn hynod falch o weld ein myfyrwyr yn disgleirio ar lwyfan cenedlaethol ac yn dathlu’r Gymraeg a llenyddiaeth drwy waith mor ysbrydoledig. Llongyfarchiadau Lea! 👏💚

Huge congratulations to Coleg Meirion-Dwyfor A Level student Lea Roberts on her incredible success at the Urdd National Eisteddfod on Ynys Môn! 🏆📚✨

Lea has won first prize in the literature competition for writing a short story — an amazing achievement and a true reflection of her creativity, talent, and dedication.

We are incredibly proud to see our students shining on a national stage and celebrating the Welsh language and literature through such inspiring work. Llongyfarchiadau mawr Lea! 👏💚

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026

🌿 Yn ddiweddar, cynhaliodd myfyrwyr Sgiliau ar gyfer Gwaith a Bywyd Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau barti gardd arbennig ...
15/05/2026

🌿 Yn ddiweddar, cynhaliodd myfyrwyr Sgiliau ar gyfer Gwaith a Bywyd Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau barti gardd arbennig fel rhan o’u cwrs, er mwyn codi a***n at Ambiwlans Awyr Cymru 🚁

Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o drefnu’r digwyddiad, ac i holl aelodau’r cyhoedd a’r staff a ddaeth draw i gefnogi. Fe wnaeth eich haelioni a’ch cefnogaeth helpu i wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol! 💙

🌿 Skills for Work and Life students from Coleg Meirion-Dwyfor Dolgellau recently hosted a wonderful garden party as part of their course, raising funds for the Welsh Air Ambulance 🚁

A huge thank you to everyone involved in organising the event, and to all the members of the public and staff who came along to support. Your generosity and encouragement helped make the day such a success! 💙

Address

Ffordd Ty'n Y Coed
Dolgellau
LL402SW

Opening Hours

Monday 9am - 4:30pm
Tuesday 9am - 4:30pm
Wednesday 9am - 4:30pm
Thursday 9am - 4:30pm
Friday 9am - 4:30pm

Telephone

+44 1341 422827

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Coleg Meirion-Dwyfor posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Hotel

Send a message to Coleg Meirion-Dwyfor:

Share